Neges y Pennaeth

Croeso i wefan newydd sbon Ysgol Pum Heol. Ysgol brif ffrwd gynhwysol ym mhentre hardd Pum Heol ar gyrion Llanelli. Mae’n ysgol sy’n gosod lles yn agwedd flaengar o fywyd ysgol. Mae gennym adeilad newydd sbon ac mae’r ymdeimlad o deulu, lle mae pawb yn gwybod ac yn gofalu am ei gilydd, yn gryf. Mae perthynas dda iawn rhwng staff a disgyblion.

Ein nod yw sicrhau cyrhaeddiad academaidd a chyfoethogiad personol pob disgybl mewn awyrgylch gefnogol a chynhwysol. Mae staff Ysgol Pum Heol yn darparu amgylchedd hapus a gofalgar lle mae meithrin perthnasoedd cryf wrth wraidd ein hethos a’n gwerthoedd I wireddu’n arwyddair, Dysgwn y Ffordd i Fyw.

Ein nod yw hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, hanes a diwylliant trwy ein cwricwlwm beth bynnag yw iaith y cartref. Cynigwn addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm, a’n nod yw i bob plentyn gyrraedd eu potensial o ruglder yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ogystal â darparu profiad dysgu o ansawdd uchel, mae pob disgybl yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau diwylliannol, cerddorol, chwaraeon ac allgyrsiol drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Edrychwn ymlaen i’ch croesawi chi yma.

Cymraeg