Ysgol newydd i Bum Heol

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys codi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Pum Heol. Codwyd adeilad newydd yr ysgol ar dir ger safle presennol yr ysgol, gan ddarparu cyfleusterau ac ystafelloedd o’r radd flaenaf i ddisgyblion a staff. Mae gan yr ysgol le i 120 o ddisgyblion oed cynradd, ynghyd â 30 o leoedd meithrin ychwanegol sy’n cael eu darparu gan ddarparwr allanol, gan helpu i ateb y galw am addysg Gymraeg yn yr ardal. Cwblhawyd y prosiect mewn 2 gam.

Cymraeg